Mae’r rhestrau hyn yn darparu manylion o’r newidiadau i ddeddfwriaeth yn cynnwys diddymiadau, addasiadau ac effeithiau eraill (e.e. addasiadau a gwybodaeth gychwyn) a wneir gan ddeddfwriaeth wedi hynny.
Mae’r ffurflen chwilio isod yn rhoi mynediad i restrau sy’n cynnwys manylion a wneir gan holl ddeddfwriaethau’r DU sydd wedi’u deddfu o 2002 hyd heddiw i’r ddeddfwriaeth sylfaenol sydd ar legislation.gov.uk. Mae newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaethau sydd wedi’u deddfu cyn 2002 eisoes wedi’u hymgorffori yng nghynnwys y ddeddfwriaeth sylfaenol ac nid ydynt ar gael fel rhestrau chwiliadwy. Mae newidiadau a wnaed gan y ddeddfwriaeth eilaidd sydd wedi’u deddfu o 2000 ymlaen ar gael. Mae newidiadau i Reoliadau a Phenderfyniadau’r UE sy’n deillio o’r UE gan ddeddfwriaeth y DU hefyd wedi’u cynnwys yn y rhestrau hyn.
Diweddarir y rhestri gyda’r newidiadau a wneir gan ddeddfwriaeth newydd cyn gynted ag y mae modd ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei derbyn gan dîm golygyddol legislation.gov.uk. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y newidiadau ar gael cyn pen dwy wythnos o’r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyhoeddi, ond yn ystod cyfnodau arbennig o brysur am ddeddfwriaethau newydd, gallai gymryd yn hirach. Hyd at ymadawiad yr UE, cafwyd newidiadau i ddeddfwriaethau’r UE a wnaed gan ddeddfwriaeth yr UE cyn i’r DU adael yr UE o EUR-Lex a’u cyhoeddi ar y tudalennau Newidiadau i Ddeddfwriaeth.
Sylwer: Lle bo newidiadau ac effeithiau sydd eisoes i’w cymhwyso i ddeddfwriaeth y DU neu’r UE yr ydych yn edrych arni ar y safle hwn, yna mae unrhyw ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’ hefyd wedi’u harddangos ochr yn ochr â chynnwys y ddeddfwriaeth ar lefel darparu.
Chwilio
Newidiadau i Ddeddfau Lleol a Phreifat a Phersonol
Mae’r Tablau Cronolegol yn rhestru newidiadau i Ddeddfau Lleol a Phreifat a Phersonol yn dyddio o 1797 hyd 2008. Maent yn cael eu diweddaru yn flynyddol ac fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r tablau yn rhestru Deddfau Lleol, Preifat a Phersonol yn eu trefn gronolegol ynghyd â manylion am ddiddymiadau a newidiadau (gan gynnwys cywiriadau ac amnewidiadau) a wnaed i’r Deddfau hynny. Maent wedi cael eu cyhoeddi mewn rhannau er mwyn eu gwneud yn haws i’w defnyddio.